MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Llesiant A Bugeiliol - Ysgol Gorllewin Mynwy

Torfaen Local Authority

Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5

Rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Swyddog Chymorth Llesiant a Bugeiliol gofalgar ac ymroddgar i weithio yn ein tîm bugeiliol. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus ac empathetig sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc i gefnogi eu llesiant a'u galluogi i lwyddo'n academaidd. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion a theuluoedd o ddydd i ddydd, i sicrhau eu bod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu. Bydd hyn yn cynnwys dod i gyswllt ag asiantaethau allanol perthnasol a chreu adroddiadau cynnydd ac ymgysylltu yn ôl yr angen. Bydd yna rai dyletswyddau gweinyddol hefyd, yn ôl yr angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am ymgymryd â rhai dyletswyddau cymorth cyntaf.
Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pwl a'r ardal gyfagos. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol, ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.