MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 9 | £45,091 - £50,269
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymgynghorydd Athrawon ar gyfer Ymarfer Cynhwysol Cyfnod Uwchradd ac Ôl-16

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 9 | £45,091 - £50,269

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Cynhwysiant a Llesiant ADY am Ymgynghorydd Athrawon ar gyfer Ymarfer Cynhwysol, i ddechrau cyn gynted â phosibl.
Elfennau allweddol y rôl fydd:
  • Rhoi cefnogaeth broffesiynol i ysgolion a lleoliadau ledled Torfaen i sicrhau bod yr addysgu a'r dysgu o ansawdd uchel ac yn effeithiol, er mwyn sicrhau'r deilliannau gorau posibl i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Bod yn gyfrifol am gefnogi elfennau o ddyletswyddau allweddol yr ALl o dan y Cod ADY ar gyfer unigolion Ôl-16
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sydd â Statws Athro Cymwysedig, sydd â gwybodaeth drylwyr o'r Cwricwlwm i Gymru, dealltwriaeth gadarn o addysgu a dysgu o safon o fewn ysgol uwchradd ac sydd ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn addysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth ymarferol a dealltwriaeth o ymarfer cynhwysol mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â: Claire.Williams@torfaen.gov.uk
Llunio rhestr fer: Dydd Gwener19 Medi 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 26 Medi neu ddydd Llun 29 Medi 2025
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.