MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 1 i Bwynt 2 £24,413 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.65 yr awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 1 i Bwynt 2 £24,413 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.65 yr awr
Glanhawr Ysgol Lefel 1 (Ysgol Dôlafon)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau wedi cael ei ddwyn ymlaen i 25/08/2025
Dyddiad creu rhestr fer: 26/08/2025
Cyfweliadau: 27/08/2025
Am y rôl:
Darparu gwasanaeth rheng flaen yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyngor Powys a'r ysgol. Cyfrifol am lanhau Ysgol Dolafon. Darparu'r gwasanaeth i'r safon a nodir gan fanyleb y swydd.
Amdanoch chi:
Bydd gennych y gallu i weithio ar eich pen eich hun, sylw da i fanylion a sgiliau cyfathrebu effeithiol. Bydd gofyniad i gadw cofnodion.
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud:
• Mynychu hyfforddiant perthnasau yn ôl yr angen.
• Glanhau lloriau gyda hwfer, rhoi sglein gyda pheiriant, sgwrio gyda pheiriant, ysgubo / mopio gwlyb/sych
• Glanhau dodrefn ac arwynebau gwaith
• Glanhau toiledau, seddi toiled, wrinalau, basnau llaw, drychau, ac ailgyflenwi papur toiled, tywelion llaw, sebon.
• Gwagio a glanhau biniau gwastraff / ailgylchu, ailgyflenwi bagiau biniau sbwriel a chael gwared ag unrhyw wastraff i'r compownd.
• Cael gwared ar farciau budr o'r waliau, drysau a ffenestri mewnol hyd at uchder y pen.
• Glanhau lefel uchel gan ddefnyddio offer estynedig
• Sicrhau safon dda o waith drwy:
• Adrodd am eitemau sydd wedi'u difrodi/torri
• Adrodd am ddraeniau wedi'u blocio
• Arsylwi iechyd a diogelwch
• Defnydd cywir o gemegion
• Amgylchedd gwaith diogel
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
office@dolafon.powys.sch.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS