MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.05 - £13.26 | Grade 2
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo Wrth Gefn (Cyflenwi) - Pob Safle

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.05 - £13.26 | Grade 2

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Rydym yn chwilio am berson trefnus a brwdfrydig iawn sy'n llawn ysgogiad i ymuno â'r Tîm Arlwyo Ysgolion fel gweithiwr cyflenwi. Byddwch yn helpu trwy gyflenwi mewn ysgolion gwahanol i gynnal profiad pleserus i blant sy'n bwyta cinio yn yr ysgol.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu cynorthwyo ym mhob rhan o'r gegin i gyflawni'r safonau gofynnol gan gynnwys paratoi bwyd, gweini prydau blasus, glanhau'r gegin a'r neuadd fwyta a bydd gennych rywfaint o wybodaeth am Reoliadau Diogelwch Bwyd.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, bydd angen sgiliau cyfathrebu da arnoch, y gallu i ddangos menter, bod yn chwaraewr tîm rhagorol, a bydd gennych safonau hylendid uchel. Bydd gofyn bod gennych y gallu a'r hyder i weithio a ffynnu mewn amgylchedd prysur.
Bydd gofyn i chi:
  • Gadw at weithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â nhw.
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar gyfer y swydd mewn unrhyw leoliad y mae'r Rheolwr Arlwyo yn teimlo ei fod yn addas.
  • Sicrhau ar bob adeg fod yr holl offer cegin yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gywir.
Bydd gofyn i chi gadw cofnodion llawn a chywir ym mhob llyfr/ffurflen yn unol â'r gweithdrefnau gweinyddol a osodwyd gan yr Adran Arlwyo.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Catherine Davies ar 01633 647484 neu catherine.davies@torfaen.gov.uk .
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.