MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 | £31,537 - £34,434 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Arbenigol – Gwasanaeth Nam ar y Golwg – Cyfrwng Cymraeg

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 6 | £31,537 - £34,434 PRO RATA

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllawiau i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc â nam ar y golwg? Dyma gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm ymroddgar.
Fel Cynorthwyydd Addysgu a Dysgu Arbenigol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu diddorol. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys monitro ac asesu, cofnodi ac adrodd, a'r cyfan oll wrth gefnogi ethos cynhwysol i ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Byddwch yn cefnogi Athrawon Arbenigol Nam ar y Golwg ac Arbenigwyr Symudedd a Sefydlu yn bennaf i sicrhau mynediad at addysg, sgiliau byw'n annibynnol, a sgiliau symudedd a chyfeiriadedd cynnar.
Yn y rôl hon, byddwch yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu sgiliau hanfodol wrth ddefnyddio offer ac adnoddau arbenigol, a byddwch yn cefnogi'r gwaith o integreiddio technoleg ddigidol mewn gweithgareddau dysgu. Byddwch yn gweithio o fewn rhaglenni y cytunwyd arnynt (Braille/print) gyda ffocws ar lythrennedd, rhifedd a lles, gan fonitro'r cynnydd yn agos i roi adborth gwerthfawr i athrawon.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i baratoi, cynllunio a rheoli gweithgareddau a rhaglenni addysgu penodol, gan helpu dysgwyr i feithrin hyder ac annibyniaeth yn yr ysgol, gartref, ac yn y gymuned ehangach. Yn ogystal, byddwch yn dysgu llythrennedd Braille yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Er mwyn deall mwy am anghenion y plant y byddwch yn eu cefnogi, gallwch gyfeirio at y Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg | RNIB .
Oherwydd natur y rôl hon, mae'n rhaid i chi allu teithio'n annibynnol ar draws ardal Gwent Fwyaf (Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, a Chaerffili) i roi cymorth personol. Mae angen trwydded yrru lawn a cherbyd i wneud y swydd hon.
Mae'r penodiad yn amodol ar eirda llwyddiannus a gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Sarah Hughes, Pennaeth Gwasanaeth Nam ar y Golwg SenCom, yn Sarah.Hughes@torfaen.gov.uk
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Saesneg neu yn Gymraeg, a, a bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n tîm a chael effaith gadarnhaol gyda'n gilydd.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd .
Ar gyfer y swydd hon mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu galw i gyfweliad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 29 Medi 2025.