MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau - Addysg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn

Mae'r Adran Addysg yn ceisio recriwtio chwaraewr tîm brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol prysur.

Bydd disgwyl i chi ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd cynnal a chadw adeiladau ar gyfer pob adeilad ysgol, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw adweithiol, deddfwriaethol, cynlluniedig a chylchol. Byddwch yn darparu cyngor a chymorth i'r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol ar gynnal a chadw adeiladau newydd ac adeiladau sy'n destun cynlluniau adnewyddu a gwella. Byddwch yn sicrhau bod portffolio eiddo Addysg y Cyngor yn bodloni gofynion deiliaid y gwasanaeth a'r holl reoliadau statudol. Byddwch yn bersonol ymwybodol o, ac yn cadw at, systemau a phrosesau i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ynghylch cynnal a chadw adeiladau

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o'r tîm Rheoli Cyfleusterau (RhC) gan sicrhau bod cytundeb lefel gwsasanaeth RhC yr ysgol yn cael ei ddarparu a bod ysgolion yn cydymffurfio â'u holl gyfrifoldebau o dan y cytundeb hwn. Elfen allweddol o'r rôl fydd sicrhau bod ysgolion nad ydynt yn prynu'r cytundeb lefel gwasanaeth RhC yn ôl yn cynnal a chadw eu hadeiladau'n gywir ac yn unol â gofynion cydymffurfiaeth statudol.

Mae gwybodaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch:

Carla Hughes, Rheolwr y Rhaglen - 01978 295424, carlam.hughes@Wrexham.gov.uk

neu Aled Pugh-Jones, Arweinydd RhC - 01978 315630, Aled.Jones@wrexham.gov.uk

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Wrecsam, gyda gofyniad i deithio i safleoedd ysgolion gwahanol ar draws y Fwrdeistref ac i brif swyddfa'r Adran Asedau a Datblygu Economaidd ar Ffordd Rhuthun.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.