MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £2,824 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £2,824 y flwyddyn

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Tremains am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio am awr yn ystod amser cinio, rhwng 11.45am a 2.00pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant yn ystod amser cinio ynghyd â chynnwys disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 27 Awst 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 05 Medi 2025

Dyddiad Cyfweliad: 12 Medi 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person