MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £28,598 - £29,540 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Ardal Cymorth Cynnar - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £28,598 - £29,540 y flwyddyn

Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Ardal Cymorth Cynnar - Dros Dro
Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Mawrth 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda phartneriaid eraill, wedi datblygu fframwaith ar gyfer dull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Swyddogion Cymorth i Deuluoedd yn ffurfio rhan o dîm ardal amlbroffesiynol o weithwyr rheng flaen sy'n gysylltiedig ag ymyrryd yn gynnar a gwaith cymorth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, llawn cymhelliant sydd â sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad llwyddiannus o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd amlasiantaethol.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau, ffoniwch Amy Gurdin, Rheolwr Ardal Ymyrryd yn Gynnar, Canolfan y Dwyrain, 01656 642651.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 13 Awst 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 15 Awst 2025

Dyddiad Cyfweliad: 27 Awst 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person