MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,602 - £24,988
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 (Prif Ffrwd) yn Ysgol Glan-y-Môr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £24,602 - £24,988
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2103
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Dyddiad gorffen y contract:
31 Awst 2026
Lleoliad:
Llanelli, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd B +4%
Cyflog:
£24,602 - £24,988
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£12.75 - £12.95
Oriau Contract:
27.5
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Pennaeth a Llywodraethwyr Glan-y-Môr yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Dros Dro sy'n angerddol am gefnogi plant yn eu haddysg a'u datblygiad i ddod yn unigolion annibynnol a hyderus.
Fel Cynorthwyydd Addysgu, byddwch yn gweithio'n agos gydag athrawon dosbarth i gefnogi dysgu a datblygiad myfyrwyr, gan ddarparu cymorth un-i-un yn ogystal â chymorth grŵp.
Byddwn yn disgwyl i chi:
Darparu cefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod gwersi a gweithgareddau.
Helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Monitro a chefnogi cynnydd myfyrwyr.
Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
Gallu gweithio'n effeithiol fel unigolyn ac fel rhan o dîm.
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus, ac amgylchedd gwaith cefnogol a chroesawgar.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at: diane.booth@glanymor.cymru
Mae Glan-y-Môr wedi dangos gwelliant sylweddol dros amser a chofnododd Arolygiad Estyn diweddaraf (2017) ar gyfer y ddwy ysgol fod y Perfformiad Cyfredol a'r Rhagolygon ar gyfer Gwella ar gyfer yr ysgol yn Rhagorol.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais gan Diane Booth, Ysgol Glan-y-Môr, Heol Elfed, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 0AL Ffôn: 01554 8362507 neu drwy e-bost: diane.booth@glanymor.cymru
Disgrifiad Swydd:
Teaching Assistant Level 1 - English School.pdf - 176KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 29/08/2025, 10:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.