MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,431 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Ieuenctid Iechyd a Lles Meddyliol/Emosiynol Dros Dro

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £34,431 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Ydych chi'n angerddol am gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach, cadarnhaol ac ystyrlon?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn chwilio am unigolyn ymroddgar, llawn cymhelliant ac empathetig i ymuno â'n tîm deinamig fel Gweithiwr Ieuenctid - Iechyd a Lles Meddyliol. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ac arwain darpariaeth a mentrau sy'n hyrwyddo iechyd meddwl, lles emosiynol a chadernid ymhlith pobl ifanc 11-25 oed ar hyd a lled y sir.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steffan Llyr Williams ar 07702479672.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 21/08/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc ac oedolion

Yn dda am rwydweithio a sefydlu partneriaethau

Yn gallu paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli Adnoddau ar gyfer unrhyw brosiect
Dymunol
Yn hunan- gymell a gweithio ar ei liwt ei hun
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Rhaid cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn ystod y 2 flwyddyn gyntaf o'r swydd

Profiad o weithio un i un hefo pobl Ifanc

Profiad o weithio gyda grwpiau o bobl ifanc

Profiad eang o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant achrededig

Gwybodaeth am gynlluniau achredu gan gyrff allanol (ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, John Muir, BTEC, Prifysgol Plant)
Dymunol
Cymhwyster neu yn gweithio tuag at gymhwyster Asesu Achrediadau

Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad helaeth mewn cyflwyno a danfon rhaglenni achrediadau mewn cyd destyn anffurfiol

Tystiolaeth o lwyddiant wrth weithio gyda pobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfa addysg anffurfiol

Profiad o gyflwyno rhaglenni addysgol i bobl ifanc ac oedolion

Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau

Y gallu i adeiladu perthynas dda gyda pobl ifanc
Dymunol
Profiad mewn gweithredu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg

Sgiliau trefnu a gweinyddu da

Gallu i weithio gyda pobl Ifanc ac oedolion

Gallu i weithio yn annibynol ac yn fentrus

Gallu i ysgogi, cadw, datblygu a chefnogi aelodau o staff, pobl ifanc ac oedolion

Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant ac Oedolion

Ymwybyddiaeth gryf o faterion sydd yn effeithio pobl ifanc

Sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i ddelio gyda llwyth gwaith

Y gallu i weithio yn greadigol i Gwricwlwm Gwaith Ieuenctid

Y gallu i ddatrus problemau

Y gallu i gyrraedd 'deadlines'

Y gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflym
Dymunol
Profiad o weithredu polisiau Iechyd a Diogelwch

Flexible approach
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau pobl ifanc

• Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu'r gwaith yma i'r eithaf.

• Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith yn pontio'n esmwyth ar draws y timau a bod Iechyd a Lles yn dod yn rhan allweddol o'r gwasanaeth

• Gweithio hefo ppobl ifanc o fewn penawdau y 5 Ffordd at Les ac yn sicrhau Llais pobl ifanc ym mhopeth sydd yn cael wneud

• Datblygu llwybr hydwythder emosiynol sydd yn 'non clinical' ar y cyd gyda Asiantaethau eraill

• Cydlynu y grŵp Iechyd meddwl

• Gweithredu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gan sicrhau y profiad gorau i bobl ifanc

• Bydd y swydd yma yn canolbwyntio ar yr oedran 11 - 25
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn gyfrifol am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau. Bydd hefyd yn gyfrifol am offer gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion iechyd a diogelwch.
Prif ddyletswyddau
• Gweithio yn uniongyrchol gyda pobl ifanc 11 - 25 oed i ddatblygu eu iechyd a'u Lles Emosiynol drwy gynnig rhaglen eang o weithgareddau all arwain tuag at achrediad / cymhwyster

• Cydlynu y Grŵp Iechyd a Lles Pobl Ifanc

• Cyfrifoldeb am y Comisiwn / cytundeb ymchwil Iechyd Meddwl

• Rhoi briff anghenion i'r swyddog Hyfforddiant - sesiynau Iechyd a Lles

• Darparu sesiynau Llesiant

• Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect

• Sicrhau gofod ble caiff person ifanc y cyfle i fwynhau eu hunain, teimlo'n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau niweidiol a all eu effeithio

• Adeiladu perthynas bositif gyda Gwasanaethau / Asiantaethau eraill ee CAHMS

• Trefnu a cynnal digwyddiadau yn ystod gwyliau a penwythnosau

• Sefydlu a datblygu grwpiau o bobl ifanc i gyfranogi mewn cyrsiau / cynlluniau sydd wedi eu achredu

• Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd achredu a rhaglenni, ymysg pobl ifanc sy'n ateb y gofynion lleol

• Mynychu cyfarfodydd safoni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu yn ôl yr angen

• Gweithredu yn ol yr angen fel mentor a brocer fel sy'n cael ei ddiffinio yn y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn yr ysgolion, trwy waith un i un neu waith grwp

• Datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, sy'n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.

• Cyd-weithio mewn partneriaeth gyda CAHMS, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ganolfan Fyd Gwaith, Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi'r person ifanc

• Galluogi pobl ifanc i gael mynediad i gyflawniadau cydnabyddedig (e.e. Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr John Muir).

• Cymell pobl ifanc trwy roddi ymdeimlad o gyflawni a chydnabyddiaeth iddynt

• Cyd-weithio gyda'r Adran Addysg, YOTs, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi person ifanc.

• Mynychu cyfarfodydd cynllunio'r gwasanaeth ieuenctid, cyfarfodydd adolygu etc. fel bo angen

• Mynychu cyfarfodydd safonni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu, ac i raeadru gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes Iechyd a Lles i aelodau eraill y tîm gwaith ieuenctid

• Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth

• Datblygu ac ehangu cwricwlwm y prosiectau drwy feithrin cysylltiadau gyda asiantaethau a darparwyr gan gynnwys ymgynghori a phobl ifanc, cyd weithio hefo ysgolion a darparwr addysg eraill

• Cyfrifoldeb dros fewnbynnu unrhyw wybodaeth sydd ei angen i'r system gasglu gwybodaeth

• Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau'r Plentyn

• Paratoi adroddiadau cynnydd ar ei waith/gwaith

• Mynychu cyfarfodydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a rhannu gwybodaeth gyda'r timoedd

• Trefnu a cynnal digwyddiadau, darparu prosiectau a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ar y cyd hefo'r Gweithwyr Cymunedol

• Chwilio am grantiau er mwyn datblygu y gwaith ymhellach

• Sicrhau bod unrhyw adroddiad wedi ei gwblhau i'r amser dynodedig

• Sicrhau bod Llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a'i ddatblygu

• Mewn cysylltiad ar rheolwr sicrhau datblygiad addas o fesur perfformiad a casglu gwybodaeth o waith er gallu mesur effeithiolrwydd y cynllun a cyflawni amcanion a osodwyd gyda threfniadau adrodd a chynllunio.

• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyn

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Cyflogaeth:

• JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned

• Pwyntiau 14-17

Gwyliau Blynyddol:

• Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny

Lleoliad:

• Caernarfon, Dolgellau neu Pwllheli

Oriau Gwaith:

• Yr wythnos waith: 37 awr yr wythnos, dim mwy na 8 sesiwn min nos mewn pythefnos, ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (3 sesiwn) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn y 37 awr.

Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl

• Mae'r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy'r Bwrdd Cofnodi Troseddau

Defnydd car:

• Trwydded yrru lawn a defnydd o gar. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel "defnyddiwr car hanfodol"

Ieithyddol:

• Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r cychwyn

Defnyddiwr Ffon Symudol:

• Darperir ffôn symudol ar gyfer dibenion y swydd.

• Bydd angen i chi weithio ar draws y Sir

• Gallwch ddatgan diddordeb mewn secondiad

• Gallwn ystyried gweithio llai o oriau

• Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ddiwedd Mawrth 2020

Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn dilyn y matrics hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Maes.

• Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi'n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi