MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 51,125 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 51,125 *
Ynglŷn â'r rôlYdych chi' n brofiadol o weithio gydag ysgolion a gwasanaethau eraill ynghylch iechyd a diogelwch pobl ifanc a staff yn ystod gweithgareddau oddi ar y safle ac anturus?
Ymunwch â'r Tîm Iechyd a Diogelwch prysur a helpu i sicrhau bod rheolaeth, cefnogaeth ac arweiniad parhaus yn cael ei ddarparu i'r rhai sy 'n trefnu gweithgareddau yn ein Ysgolion a'n Gwasanaethau Ieuenctid.
Gan ddefnyddio 'ch gwybodaeth am bolisïau a chanllawiau OEAP (Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored), byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar reoli ac asesu risg yng nghyd-destun ymweliadau addysgol gan gynnwys gweithgareddau antur, teithiau ac ymweliadau tramor. Gan weithio gyda swyddogion allweddol, byddwch yn monitro rheoli iechyd a diogelwch ymweliadau, a fydd yn cynnwys arsylwi gweithgareddau ac ymweliadau, monitro gwaith Cydlynwyr Ymweliadau Addysgol, goruchwylio a rheoli ' r system EVOLVE a dilyn meysydd sy'n peri pryder.
Mae hwn yn gyfle cyffrous sy ' n gofyn am frwdfrydedd, agwedd hyblyg ac ymrwymiad. Yn gyfathrebwr ardderchog, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o wasanaethau a thimau ac yn gynrychiolydd enwebedig y Cyngor o fewn yr OEAP.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am rhagor o gwybodaeth, cysulltu â Donna Thomas, Donna.Thomas@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhairolauofewnein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Pobl a Threfniadaeth
Rydym yn cynnig cymorth i'r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy'n perfformio'n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy'n gallu darparu gwasanaethau o'r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:
- Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
- Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
- Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
- Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
- Tâl a Budd-daliadau: Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
- Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy