MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 7 | £33,366 - £37,938
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 7 | £33,366 - £37,938
SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a gweithwyr asiantaeth sy'n gweithio i CBST ar hyn o bryd.Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a dawnus i ymuno â'r Tîm ADY. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r tîm i godi cyflawniad a chyrhaeddiad disgyblion sy'n Blant sy'n derbyn Gofal yn ysgolion Torfaen a'r rhai sy'n cael eu lleoli mewn awdurdodau eraill. Bydd angen gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion, Gofal Cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i daro targedau perfformiad yr holl Blant sy'n Derbyn Gofal. Mae'r swydd hon yn cychwyn ar 01.09.25 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Dyma gyfnod cyffrous i ymarferydd ADY ymuno â'r tîm a chyfle i gyfrannu at lunio'r weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol.
Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn rôl ADY ar lefel gwaith achos a gallu dangos dealltwriaeth o waith lefel gwasanaeth. Yn ogystal, dylai ymgeiswyr allu dangos eu gallu i fod yn wydn, yn hyblyg ac addasu'n gyflym i newid. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am gyflawni cyfrifoldebau statudol yr ALl a amlinellir yn y Cod ADY. Yn ogystal â deall cymhlethdod anghenion y dysgwr, y teulu a'r ysgol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o gynulleidfaoedd. Mae datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gydag ysgolion a phenaethiaid yn rhan hanfodol o'r rôl hon.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 29 Gorffennaf, Llunio rhestr fer 31 Gorffennaf, Cyfweliadau dydd Gwener 1 Awst.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn .
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.