MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,183 Pro Rata | Hourly rate: £13.05 | Grade 3
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyflog: £25,183 Pro Rata | Hourly rate: £13.05 | Grade 3

SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a gweithwyr asiantaeth sy'n gweithio i CBST ar hyn o bryd .
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig iawn sy'n llawn ysgogiad i ymuno â'r tîm glanhau ysgolion!
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, bydd gennych brofiad profedig o lanhau ac angerdd dros wneud y gwaith. Mae agwedd o allu gwneud a llygad am fanylder yn hanfodol. Bydd ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i ymateb i newidiadau funud olaf yn eich gwneud yn ychwanegiad rhagorol i'n tîm ymroddgar.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Jayne Sullivan ar 01633 647718
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.