MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pennaeth Gwasanaeth 2 £77,488 - £85,034 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Gwella a Dysgu Ysgolion

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Pennaeth Gwasanaeth 2 £77,488 - £85,034 y flwyddyn

Pennaeth Gwella a Dysgu Ysgolion
Swydd-ddisgrifiad
Rydym yn chwilio am arweinydd addysg profiadol a strategol i ymgymryd â rôl Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwella Ysgolion a Dysgu. Fel yr arweinydd strategol ar gyfer gwella ysgolion ar draws yr awdurdod, byddwch yn llunio ac yn ysgogi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer rhagoriaeth addysgol, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dod â dealltwriaeth ddofn o'r system addysg a hanes profedig o arwain gwelliant ar draws y system sy'n cyflawni effaith fesuradwy a chynaliadwy. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y broses o drawsnewid addysg Powys, gan helpu i gyflawni diwygiadau uchelgeisiol sy'n gwella canlyniadau i bob dysgwr. Gyda ffocws clir ar ysgogi gwelliant sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn barhaus, byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr, llywodraethwyr a phartneriaid allweddol i ddarparu arweiniad arbenigol, meithrin gwelliant cydweithredol a sicrhau atebolrwydd cadarn. Byddwch yn rhan o dîm arweinyddiaeth flaengar ac sydd wedi ymrwymo i arloesi, gwella'n barhaus a gwneud gwahaniaeth parhaol i gyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: recruitment@powys.gov.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 02/09/2025 12noon