MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Gradd Soulbury 4 - 7 gyda 3 pwynt SPA
Mae Gwasanaeth Addysg ac Ymyrraeth Gynnar Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio penodi ymarferydd deinamig i weithio fel rhan o'r tîm Mynediad at Addysg gyda chyfrifoldeb am Blant â Phrofiad o fod mewn Gofal
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro medrus iawn ac yn meddu ar lefel uchel o wybodaeth arbenigol ac arbenigedd ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed. Bydd yn fedrus wrth weithio gydag ysgolion ac amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid, i reoli achosion a nodi'r strategaethau cymorth priodol i ddiwallu anghenion yr unigolyn.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol sy'n ymrwymedig i sicrhau bod anghenion pob person ifanc yn cael eu cefnogi'n llwyddiannus.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Lawer o brofiad a gallu fel athro
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o strategaethau llwyddiannus i gefnogi dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol wedi'i dargedu, y bydd rhai ohonynt yn dangos ymddygiadau cymhleth a heriol.
• Ymrwymiad cryf i werthoedd gwasanaeth cyhoeddus.
• Y gallu i weithio mewn amgylchedd sy'n newid a chefnogi'r daith gwella gwasanaeth.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.