MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £8,252 - £8,381 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Dros Dro - Ysgol Ysbyty Ifan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £8,252 - £8,381 y flwyddyn
Ysgol Ysbyty IfanYsbyty Ifan, Betws y Coed, Conwy, LL24 0NY
Ffôn: (01690) 770645
Ebost: pennaeth@ysbytyifan.conwy.sch.uk
Pennaeth Mewn Gofal: Mr Gareth Davies
Yn eisiau erbyn mis Medi 2025
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 DROS DRO
(Contract dros dro hyd at 12/04/2026)
Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £8,252 - £8,381 y flwyddyn
Oriau: 15 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant (5 bore)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro, i gefnogi disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth ar pennaeth@ysbytyifan.conwy.sch.uk
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English