MANYLION
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 34,314 - 36,124 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cynnal Ymddygiad - Ysgol Bro Pedr

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 34,314 - 36,124 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Mae Ysgol Bro Pedr yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da i ymgymryd â'r swydd Swyddog cefnogi ymddysgiad.

Dyddiad cyfweliadau 13ain o Awst 2025.

Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o'r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol - 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy'n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na defnyddir y Gymraeg. Mae'r disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae'r
ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy'n golygu bod ein disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o'n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o'n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o'n disgyblion oed cynradd). Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal yn mynychu ein hysgol ac mae 16 o ddisgyblion yr ysgol yn ofalwyr ifanc. Hefyd, mae 10.1% o'n disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ganran yn is o fewn yr oed cynradd (9.03%) o'i gymharu â'r oed uwchradd (10.64%). Rydym yn falch iawn o'n cymuned cynhwysol yn Ysgol Bro Pedr a rydym yn darparu'n llwyddiannus ar gyfer ystod lawn o alluoedd a chefndiroedd.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle'r ysgol. Mae'r ganolfan yn rhan lawn o'r ysgol, ac mae'r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy'n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont lle'n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Mae Tîm Arwain Ysgol Bro Pedr yn cynnwys: Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, dau Bennaeth Cynorthwyol, Arweinydd Lles ac Arweinydd Cynnydd.

Pecyn Gwybodaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant