MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Calon Cymru

32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn

Contract Tymor Penodol 1 Flwyddyn

Rydym yn ceisio penodi Goruchwyliwr Cyflenwi brwdfrydig iawn gyda'r gallu i ysgogi ein myfyrwyr wrth gyflenwi dros athrawon absennol ar draws y ddau gampws ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan ar draws y cwricwlwm yn ystod absenoldeb tymor byr athrawon, gan sicrhau bod y gwaith a ddarperir i'r myfyrwyr yn cael ei gyflwyno a'i gwblhau. Bydd yn ofynnol i'r person hwn gynorthwyo disgyblion gyda'u gwaith, ymateb i gwestiynau a chynnal safonau ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae angen unigolion brwdfrydig ac ymroddedig gyda'r gallu i addasu i wahanol amgylcheddau ystafell ddosbarth ar gyfer y swydd hon.

Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i brofi'r ystod eang o ddysgu sy'n digwydd bob dydd yn yr ysgol ac mae'n gam perffaith i rywun sy'n ystyried gyrfa addysgu ac sydd eisiau profiad o fod mewn ysgol gefnogol a chyfeillgar, neu rôl newydd i unrhyw un a hoffai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae'n gyfle gwych i chwarae rhan hanfodol ym mywyd dydd i ddydd yr ysgol o fewn yr ystafell ddosbarth ac i gael profiad o amgylchedd yr ysgol.

Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 oed sy'n gwasanaethu dalgylch gwledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth gweithredol. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm o athrawon a staff cyswllt gweithgar, cymwys ac ymroddedig. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd cyd-dynnu a chydweithio er budd gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegiad at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae gwefan ein hysgol ( https://www.ysgolcalon.cymru/ ) yn darparu ystod o wybodaeth am yr ysgol.

Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 ac chafodd ei disgrifio gan Estyn fel, 'Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu tawel, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu'n unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol â staff yr ysgol ac yn gyfeillgar ag ymwelwyr.'

Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Ychydig am ein hardal leol

Mae Canolbarth Powys yn drysor cudd, sy'n cynnig y cyfuniad perffaith o ddiogelwch, swyn a harddwch naturiol. Dychmygwch fyw mewn lle sydd â chyfraddau troseddu isel, tai fforddiadwy, tirweddau syfrdanol, a chymunedau cynnes a chroesawgar. Mae gan y Canolbarth bopeth!

Yma, mae sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn ddiymdrech, diolch i'r amrywiaeth anhygoel o weithgareddau sydd ar gael i bob oed. P'un a ydych chi'n angerddol am golff, pysgota, cerdded, seiclo, neu feicio mynydd, neu'n mwynhau diwylliant trwy theatrau, sinemâu, neu ddigwyddiadau enwog fel Gŵyl Y Gelli, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a Sioe Frenhinol Cymru, mae rhywbeth i bawb ar stepen eich drws.

Os ydych chi'n breuddwydio am ffordd o fyw wedi'i hamgylchynu gan goetiroedd hynafol, afonydd disglair, mynyddoedd mawreddog, ac awyr iach, adfywiol, mae Canolbarth Powys yn galw arnoch chi. Dewch i fod yn rhan o'r gymuned fywiog ac ysbrydoledig hon yng nghanol Cymru! Cliciwch yma am flas ar yr hyn sydd gan y Canolbarth i'w gynnig!

Dyddiad Cau: 10 Awst 2025

Cyfweliadau I'w gadarnhau

Dyddiad Dechrau Medi 2025

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Nia Lydiate, Rheolwr Busnes- office@caloncymru.powys.sch.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.