MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 69,787 - 76,238 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gyfun Aberaeron

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 69,787 - 76,238 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Dyddiad Cychwyn: 01/01/2026

Yn sgil cyfle secondiad i'r Dirprwy bresennol, gwahoddir ceisiadau oddi wrth addysgwr ac arweinydd profiadol ar gyfer swydd Ddirprwy Bennaeth yr ysgol.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol naturiol ddwyieithog, sy'n gwasanaethu ardal eang yng nghanol Ceredigion, gyda bron 600 o ddisgyblion 11-19 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 6ed dosbarth lwyddiannus.

Mae'r Llywodraethwyr am benodi person sy'n meddu'r gallu a'r profiad i fod yn aelod o Dîm Arwain yr ysgol. Chwiliwn am berson sy'n meddu'r gallu i arwain, rheoli, cyfathrebu a chydweithio gydag eraill. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o arfarnu ac hunan-arfarnu gwaith yr ysgol. Disgwylir hefyd arweiniad ynglwn â materion eraill a phrofiad helaeth o weinyddu ar lefel ysgol gyfan. Ceir safonau uchel o fewn yr ysgol a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus hybu a pharhau i gynnal a chodi ymhellach y safonau hynny.

Bydd disgwyl i'r person a benodir medru cynnig syniadau, datblygu polisïau ac arfarnu'r ddarpariaeth a gynigir gan yr ysgol.

Bydd gan y swydd ystod o gyfrifoldebau sy'n adlewyrchu cryfderau a diddordebau'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i Arweinydd uchelgeisiol ddatblygu o fewn yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol.

Prif ddyletswyddau'r rôl fydd:
  • Trosolwg Dysgu ac Addysgu
  • Cwricwlwm
  • Trosolwg o'r sgiliau - llythrennedd; rhifedd; llythrennedd digidol
  • Sicrhau ansawdd - craffu llyfrau; teithiau dysgu; llais y dysgwyr; arsylwi gwersi
  • Absenoldeb staff (Trosolwg, nid gweinyddu)
  • Opsiynau
  • RADY - cwricwlwm / darpariaeth
  • Prosbectws CA4 a CA5

Oherwydd natur yr Ysgol a'r swydd, mae angen i'r ymgeisydd fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech sgwrs anffurfiol, trefnu ymweliad gyda'r ysgol neu ragor o fanylion ynglwn â'r swydd cysylltwch â Mr Owain Jones ar 01545 570 217

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy