MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: L6 - L10 (£57,304 - £63,290)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L6 - L10 (£57,304 - £63,290)
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Greenmeadow yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth sy'n llawn ysbrydoliaeth ac ysgogiad, o fis Ionawr 2026, i helpu i arwain yr ysgol a rhannu ei dyfodol. Mae angen gweithiwr proffesiynol arweiniol sydd â'r weledigaeth eang, y creadigrwydd, yr egni a'r cymhelliant i barhau i adeiladu ar ein llwyddiannau a sicrhau ein bod yn ymdrechu dros ragoriaeth ym mhopeth a wnawn.
Mae ein hysgol ar gyrion Cwmbrân yn Nhorfaen ac mae ganddi ddigon o adnoddau a chysylltiadau cymunedol cryf. Rydym yn falch o'n pwyllgorau llais y disgybl cynhwysol sy'n chwarae rhan bwysig ym mhenderfyniadau'r ysgol. Mae Ysgol Gynradd Greenmeadow yn darparu amgylchedd hapus, diogel, sy'n meithrin, lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi, ei annog a'i herio i gyflawni ei botensial llawn.
Mae llesiant wrth galon yr ysgol i ddisgyblion, staff a theuluoedd ac mae hyn yn cyfrannu at lefelau uchel o lwyddiant ym mhob maes. Byddem yn disgwyl i'n Dirprwy Bennaeth chwarae rôl strategol gref wrth arwain ein strategaethau llesiant ar gyfer staff a phob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY, a rheoli'r strategaethau hynny.
Bydd angen i'n Dirprwy Bennaeth:
- Fod yn arweinydd strategol a fydd yn gweithio gyda'r Pennaeth i yrru'r ysgol yn ei blaen a darparu'r weledigaeth i gyflawni rhagoriaeth i bawb.
- Bod yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol, gan hyrwyddo a modelu ymarfer rhagorol, a darparu cyfleoedd dysgu cyffrous, creadigol a heriol gan ddefnyddio technoleg mewn ffordd arloesol.
- Dangos sgiliau arwain a rheoli rhagorol
- Cydweithio'n effeithiol â chymuned yr ysgol gyfan i ddarparu dull gweithredu holistaidd ar gyfer gofal a llesiant yr holl randdeiliaid.
- Grymuso pob disgybl i gyflawni eu potensial.
- Bod ag agwedd gadarnhaol iawn at arloesi a newid a fydd yn ysbrydoli ac yn datblygu ein disgyblion a'n staff.
- Bod yn chwaraewr tîm sydd â sgiliau personol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i arwain ac ysbrydoli eraill.
Yn gyfnewid rydym yn falch o gynnig i chi:
- Gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth go iawn mewn ysgol boblogaidd a llwyddiannus.
- Plant cyfeillgar, teuluoedd cefnogol a chysylltiadau â'r gymuned sydd wedi eu sefydlu'n dda.
- Tîm ymroddgar ac angerddol o staff a Chorff Llywodraethu ymgysylltiedig ac effeithiol.
- Cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth a datblygiad proffesiynol pellach gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, yr Awdurdod Lleol a'r Clwstwr.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo . Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12 Medi am 23:59
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Iau 18 Medi
Arsylwi ar Wersi: Wythnos yn dechrau 22 Medi
Cyfweliadau: 29 a 30 Medi