MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu Cymorth Dysgu trwy Ymyrraeth Lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

St Mary's Catholic Primary

Lea Road

Wrecsam, LL13 7NA

Tel: 01978 352406

Pennaeth: Mrs R F Acton

Cynorthwy-ydd Addysgu Cymorth Dysgu trwy Ymyrraeth

(Lefel 1)

GO3 £7,586 - £7,705 y flwyddyn

14 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Iau 08:45-12:15)

I ddechrau ym mis Medi 2025 (Swydd dros dro - tan fis Mawrth 2026 i ddechrau)

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn ceisio penodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig sydd â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddedig ac arloesol yn ein hysgol hynod hapus, gofalgar a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

âœ" Cefnogi ethos Catholig yr ysgol

Hyrwyddo ethos cynhwysol yr ysgol yn weithredol ac yn dathlu natur amrywiol ein hysgol

Meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr sy'n agored i niwed (Dymunol)

Gweithio o dan gyfarwyddyd y Cydlynydd ADY ac athrawon dosbarth i ddarparu ymyriadau/rhaglenni cymorth addas i alluogi pob disgybl ar draws yr ysgol i wneud cynnydd yn eu lles a'u dysgu

Meithrin perthnasoedd cefnogol gyda disgyblion, rhieni a staff

Cymryd rhan mewn unrhyw ddatblygiad a hyfforddiant proffesiynol perthnasol parhaus / ychwanegol i gefnogi anghenion parhaus y rôl, yn ôl yr angen

Gallu cyfathrebu'n hyderus.

Gallu gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm effeithiol a bod â'r gallu i ddefnyddio menter wrth weithio'n annibynnol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso mawr i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 352406 i wneud apwyntiad.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael argyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. mailbox@stmarys-wxm-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 8 Medi 2025

LLUNIO'R RHESTR FER: Dydd Mawrth 9 Medi 2025

CYFWELIADAU: WYTHNOS YN DECHRAU ddydd Llun 15 Medi 2025