MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 37,938 - 39,513 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 37,938 - 39,513 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Ydych chi'n berson profiadol sy'n medru creu modiwlau eDdysgu ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol?
Ymunwch â'n Tîm Dysgu a Datblygu prysur a'n helpu i sicrhau bod gan weithlu'r Cyngor y sgiliau a'r wybodaeth i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer dinasyddion Ceredigion.
Rydym yn chwilio am aelod newydd o'r tîm sy'n gallu dylunio a darparu atebion dysgu deniadol sy'n diwallu anghenion hyfforddi statudol ac yn cefnogi datblygiad staff ar draws y Cyngor.
Byddwch yn arwain ar greu cynnwys dysgu digidol, yn rheoli ein System Rheoli Dysgu, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein gweithlu yn fedrus, yn cydymffurfio ac yn cael ei gefnogi.
Os ydych chi'n angerddol am ddysgu digidol ac eisiau helpu i lunio dyfodol datblygu'r gweithlu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Victoria Foale, Victoria.foale@ceredigion.gov.uk
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyryma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiadcau.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Pobl a Threfniadaeth
Rydym yn cynnig cymorth i'r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy'n perfformio'n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy'n gallu darparu gwasanaethau o'r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:
- Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
- Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
- Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
- Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
- Tâl a Budd-daliadau: Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
- Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy