MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Bro Alun
Rhodfa Delamere,
Gwersyllt
Wrecsam,
LL11 4NG
01978 269580
mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mrs Helen Oldfield
Nifer ar y gofrestr: 280 ym Medi 2024

Athro / Athrawes Bl 5&6
Llawn Amser- Prif Raddfa Gyflog - Contract Dros Dro am Gyfnod o Salwch hir dymor
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib, Medi 2025

Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Bro Alun wedi'i lleoli ym mhentref Gwersyllt ar gyrion tref Wrecsam. Byddwch yn ymuno â thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy'n gweithio'n agos i sicrhau cyfleoedd cyfoethog i'n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.

Croesawn geisiadau gan athrawon newydd gymhwyso neu athrawon profiadol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu a'r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu os am ymweld â'r ysgol cysylltwch â'r Pennaeth.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

DYDDIAD CAU: Dydd Mercher, 03/09/2025 am 12:30
ARSYLWADAU GWERSI / CYFWELIADAU: Dydd Mercher 10/09/2025