MANYLION
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Grade 3 | £13.05 per hour
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Chwaraeon a Chyfleusterau - Achlysurol
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 3 | £13.05 per hour
Diolch am ddangos diddordeb mewn gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Chwaraeon a Chyfleusterau yn Ysgol Abersychan. Yn y pecyn cais hwn mae manylion yr ysgol, manyleb person a swydd-ddisgrifiad. Meddyliais y gallai fod yn ddefnyddiol rhannu'r manylion canlynol i'ch helpu i benderfynu a ddylech wneud cais.Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd gyfun i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar iawn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni'r gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 770 o fyfyrwyr, 50 o athrawon a 58 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol sylweddol ac mae gan 32% o'r myfyrwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae 51% o'r myfyrwyr yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gadarn, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a dewis helaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae'r myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Maen nhw eisiau cael addysg o ansawdd uchel a dod yn fyfyrwyr llwyddiannus. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych, sy'n gefnogol dros ben ac yn cefnogi'r ysgol i ddarparu'r addysg orau bosibl.
Os ydych chi'n llawn cyffro am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, yn credu y gall pob myfyriwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu, gyflawni, ac os ydych yn teimlo'n angerddol am ddarparu addysg ragorol, yna byddem wrth ein boddau i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl. Mae'r Tîm Busnes yn Ysgol Abersychan yn gymharol newydd ac os oes gennych chi angerdd i greu gwelliannau, cysylltwch â ni!
Yn y cyfamser, os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech ymweld â'r ysgol, mae croeso i chi gysylltu â'r Rheolwr Adeiladau, Joe Goodwin, ar joseph.goodwin@abersychanschool.co.uk
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn .