MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Noted in the Job Description,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swydd1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
3. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
4. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynllunio a chyflwyno sesiynau grŵp Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol o lefel Mynediad i Lefel 2. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ar-lein o bell (lle bo hynny'n bosibl).
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/192/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr o ddydd Llun - Gwener. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
30 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)