MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 6: £32,888- £35,131 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 6: £32,888- £35,131 y flwyddyn
Cydlynydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)Graddfa Gyflog 6: £32,888- £35,131 y flwyddyn
Llawn Amser a Chyfnod Penodol am 1 flwyddyn academaidd
Ydych chi'n angerddol am rymuso dysgwyr a sicrhau bod pob myfyriwr yn cyrraedd ei botensial llawn? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi yng Ngholeg Penybont!
Diben y swydd:
Cefnogi'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a'r Dirprwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy gydlynu dull sy'n canolbwyntio ar y person o greu, diweddaru ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn unol yn llawn â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (2021).
Bydd y rôl hon yn gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys dysgwyr, rhieni/gofalwyr, staff y coleg a gweithwyr proffesiynol allanol, a sefydliadau gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth glir o anghenion unigol er mwyn cynllunio a darparu cefnogaeth effeithiol i helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn, gan sicrhau bod y coleg yn cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol yn effeithiol.
Byddwch yn gallu gweithio'n effeithiol gydag eraill ac adeiladu perthnasoedd cryf a bydd gennych wybodaeth ymarferol gadarn am ddeddfwriaeth ADY berthnasol. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd sydd ag ADY ac anableddau a deall eu hanghenion ynghyd â chymwysterau DPP/cysylltiedig perthnasol ADY yn hanfodol.
Dyddiad y cyfweliad: 28 Gorffennaf 2025
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.