MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,992 - £27,269 y flwyddyn (G04)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Teithio a Swyddog Monitro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £25,992 - £27,269 y flwyddyn (G04)

Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn

Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, rydym eisiau i chi ymuno â'n tîm cyfeillgar sy'n gweithio'n agos yn y Gwasanaethau Addysg.

Fel swyddog Cymorth a Monitro Teithio byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein tîm cludiant o'r cartref i'r ysgol wrth sicrhau bod disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion eraill yn gallu teithio'n ddiogel yn y dull mwyaf addas o gludiant o'r cartref i'r ysgol. Gan weithio gyda'r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys rhieni, ysgolion, swyddogion yr awdurdod ac asiantaethau allanol, byddwch yn asesu gallu disgyblion a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i deithio'n ddiogel mewn cerbydau. I rai disgyblion efallai y byddwch yn gallu eu helpu i deithio i'r ysgol yn annibynnol.

Bydd gennych brofiad o, a mwynhau gweithio gyda, plant / pobl ifanc sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth, a chefnogi ymddygiad mwy heriol yn gadarnhaol. Byddwch yn hyderus wrth weithio mewn gwahanol amgylchedd a byddwch yn gallu gweithio'n effeithiol gyda phobl ar bob lefel gan gynnwys uwch swyddogion, asiantaethau allanol, penaethiaid, plant/pobl ifanc a'u teuluoedd.

Byddwch hefyd yn cefnogi'r tîm gyda cheisiadau cymhwysedd cludiant cyffredinol ac ymchwiliadau i ddigwyddiadau, a rhoddir hyfforddiant a mentora llawn ar gyfer hyn.

Mae hon yn swydd lawn amser am gyfnod penodol cychwynnol o 2 flynedd.

Un o fanteision y swydd hon yw gweithio o fewn model hybrid sydd, ar ôl cwblhau hyfforddiant a chyfnod sefydlu, yn rhoi cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac yn ein prif swyddfa ym Mae Colwyn. Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys cynllun pensiwn llywodraeth leol, tâl salwch galwedigaethol a buddion staff sy'n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, beicio i'r gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Estelle Frankcom, Rheolwr Adran - Iechyd a Diogelwch a Thrafnidiaeth ( estelle.frankcom@conwy.gov.uk / 01492 574267)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.