MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 24,404 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Cenarth

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,404 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i'n cynorthwyo ni i gefnogi ein disgyblion ar gytundeb llawn amser am flwyddyn i gychwyn.

Lleolir Ysgol Cenarth, ym mhentref Cenarth, Ceredigion. Mae 86 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae'r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda'r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.

Fe fydd gofyn i chi:
  • oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu;
  • Sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion, gan ryngweithio yn unol â'u hanghenion unigol;
  • Herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth;
  • Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes;
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol;

Rydym am benodi unigolyn sydd â:
  • sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg;
  • sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
  • dealltwriaeth gyffredinol o'r cwricwlwm cenedlaethol / cyfnod Sylfaen a rhaglenni / strategaethau dysgu sylfaenol eraill;
  • gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle personol o fewn y swyddogaethau hynny;
  • CGC3 i Gynorthwywyr Dosbarth, cymwysterau neu brofiad cyffelyb.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio'u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu'r disgyblion.

I gydnabod eich sgiliau a'ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth Mr Lee Burrows ar 01239 710060 neu ebostiwch burrowsj8@hwbcymru.net

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant