MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 | £27,269 - £30,060 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cyflog: Grade 5 | £27,269 - £30,060 PRO RATA

SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a gweithwyr asiantaeth sy'n gweithio i CBST ar hyn o bryd.
Rhan amser 18.5 awr yr wythnos. Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026 (Mae'n bosib y bydd cyllid pellach).
Nod Dechrau'n Deg yw gwella ymyriadau ataliol a chynnar yn y gwasanaethau cymorth i deuluoedd a chefnogi'r gwaith o leihau tlodi plant.
Mae Dechrau'n Deg yn brosiect aml-asiantaeth ble mae'r Gwasanaeth Addysg a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cydweithio i roi cymorth yn ystod y cyfnod cyn geni a'r blynyddoedd cynnar. Bydd y Swyddog Prosiect Blynyddoedd Cynnar dan sylw yn cefnogi aelodau o'r teulu gyda'r gwaith o fagu plant a chynnal gweithgareddau i hyrwyddo dysgu cynnar, datblygiad iaith a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol.
Bydd deiliaid y swyddi yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn defnyddio adnoddau i'r eithaf a chynnig gwasanaeth di-dor i deuluoedd.
Am sgwrs anffurfiol ynglyn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Kate Pike ar 07980682098 neu kate.pike@torfaen.gov.uk
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.