MANYLION
  • Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £7,481 - £8,214 y flwyddyn fyddai’r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 11.1 awr yr wythnos, am 39 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026.
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Diwydiant mewn Lletygarwch

Coleg Penybont

Cyflog: £7,481 - £8,214 y flwyddyn fyddai’r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 11.1 awr yr wythnos, am 39 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026.

Hyfforddwr Diwydiant mewn Lletygarwch - 2 swydd ar gael

Rhan Amser (0.3FTE / 11.1 awr yr wythnos) ac yn ystod y tymor yn unig (39 wythnos y flwyddyn)

Cyfnod Penodol am 1 flwyddyn academaidd

Graddfa Gyflog 5: £29,004 - £31,845 y flwyddyn (pro rata)

£7,481 - £8,214 y flwyddyn fyddai'r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 11.1 awr yr wythnos, am 39 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026. Bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau 'tymor yn unig' a weithir yn ystod y flwyddyn academaidd mewn gwirionedd.

(sy'n cyfateb i £15.03 - £16.51 yr awr)

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol lletygarwch deinamig sy'n awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf? Rydym yn chwilio am Hyfforddwyr Diwydiant mewn Lletygarwch i ymuno â'n tîm, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynllunio, cyflwyno ac asesu tasgau o ansawdd uchel sy'n berthnasol i'r diwydiant. Bydd eich arbenigedd yn hanfodol wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau byw, ar y safle ac mewn lleoliadau allanol, gan roi profiad go iawn amhrisiadwy i ddysgwyr. Dewch â'ch mewnwelediadau o'r byd go iawn i ddatblygu dulliau arloesol a sicrhau bod ein dysgwyr yn "barod ar gyfer y diwydiant".

Bydd eich prif ddyletswyddau'n cynnwys cydlynu pob agwedd ar ddigwyddiadau byw, o logisteg a chyllidebu i asesiadau risg, wrth sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynnwys ym mhob cam. Byddwch yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd cryf â chyflogwyr lleol a chenedlaethol yn rhagweithiol, gan sicrhau cyfleoedd gwerthfawr fel siaradwyr gwadd, lleoliadau gwaith a phrosiectau diwydiant. Byddwch yn darparu hyfforddiant ymarferol mewn amgylcheddau blaen tŷ ac yn y gegin, gan reoli grwpiau o ddysgwyr yn ystod gweithgareddau ymarferol a sicrhau ymddygiadau ac ymgysylltiad proffesiynol.

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen gwybodaeth a phrofiad helaeth mewn gweithrediadau blaen tŷ a gweithrediadau yn y gegin, ynghyd ag o leiaf cymhwyster Lefel 2 (neu gyfwerth) mewn Lletygarwch. Dylech fod yn llawn cymhelliant, yn ddelfrydol gyda phrofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc neu eu cefnogi, a dangos hyblygrwydd, agwedd ragweithiol a sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Er nad yw'n hanfodol, byddai cymhwyster Lefel 3, profiad blaenorol o hyfforddi neu asesu (neu Ddyfarniad Aseswr), a bod yn gyfarwydd ag offer digidol (fel Google Suite) yn fantais amlwg.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu AB gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwch, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.