MANYLION
  • Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £11,614 - £12,254 y flwyddyn fyddai’r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 21 awr yr wythnos, am 38 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Trin Gwallt a Therapïau Harddwch 

Coleg Penybont

Cyflog: £11,614 - £12,254 y flwyddyn fyddai’r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 21 awr yr wythnos, am 38 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026

Technegydd Trin Gwallt a Therapïau Harddwch

Rhan amser (21 awr yr wythnos)

Yn ystod y tymor yn unig (38 wythnos bob blwyddyn academaidd)

Pharhaol

Graddfa gyflog 3: £24,425 - £25,773 y flwyddyn (pro rata)

£11,614 - £12,254 y flwyddyn fyddai'r cyflog bras yn seiliedig ar weithio 21 awr yr wythnos, am 38 wythnos o fis Medi 2025 i Awst 2026. Bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau 'tymor yn unig' a weithir yn ystod y flwyddyn academaidd mewn gwirionedd.

Ydych chi'n angerddol am fyd gwallt a harddwch? Oes gennych chi lygad craff am fanylion a dawn i ddarparu cymorth eithriadol i fyfyrwyr mewn lleoliad addysgol? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm yng Ngholeg Penybont i lunio dyfodol addysg gwallt a harddwch fel Technegydd Trin Gwallt a Therapïau Harddwch.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ym maes gwallt a harddwch, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael gwybodaeth ddamcaniaethol gynhwysfawr a sgiliau ymarferol i ragori yn y diwydiant.

Fel Technegydd Trin Gwallt a Therapïau Harddwch, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi rhaglenni gwallt a harddwch y coleg. Dylai fod gennych wybodaeth a phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd salon, yn ddelfrydol gyda chymwysterau perthnasol mewn trin gwallt a therapïau harddwch. Dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio'n gytøn â staff a dysgwyr, gan ddangos gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.

Os ydych chi'n frwd dros rannu'ch arbenigedd a'ch profiad yn y diwydiant gwallt a harddwch gyda'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol, yna hoffem glywed gennych.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.