MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 a Goruchwyliwr Amser Cinio Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll
Ffordd Parc Borras
Wrecsam
LL12 7TH
Pennaeth: Mrs Rhiannon James
headteacher@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2
27 awr a hanner yr wythnos
Swydd Blwyddyn (yn y lle cyntaf)
G04 - £16,773 - £17,039 y flwyddyn
Goruchwyliwr Amser Cinio
2 awr a hanner yr wythnos
G02 - £1,333 y flwyddyn
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
I ddechrau Medi'r 1af 2025

Mae Ysgol Llan-y-pwll yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm croesawgar ac i weithio yn y dosbarth Meithrin a Derbyn. Os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd cefnogol, hapus ac arloesol ymunwch gyda ni yma yn Ysgol Llan-y-pwll.

Oriau'r swydd yw 9:00yb tan 3:30yp, gyda hanner awr o doriad amser cinio.

Mae oriau ychwanegol ar gael yn y clwb Brecwast a'r clwb ar ôl ysgol hefyd os dymunir.

Swydd Cymhorthydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, egnïol, hwyliog, cefnogol, yn fodel rôl dda ac yn rhugl yn y Gymraeg. Byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol yr athro/athrawes ddosbarth ac yn cefnogi mynediad y disgyblion i addysg, gan gynnwys :-

1. Cynorthwyo gyda gosod yr amgylchedd dosbarth
2. Cynorthwyo grwpiau o ddisgyblion mewn gwaith grŵp
3. Cefnogi dysgwyr yn yr ardaloedd ac wrth iddynt gwblhau heriau
4. Cefnogi unigolion lle bo angen
5. Rhannu gwybodaeth am gynnydd y disgyblion gyda'r athro dosbarth
6. Dilyn cyfarwyddyd gan yr athro ddosbarth a chadw at drefniadau'r ysgol e.e. rheoli ymddygiad

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
headteacher@ysgolllanypwll.pri.wrexham.sch.uk

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn Ysgol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Dyddiad cau : Dydd Llun, Gorffennaf 14eg