MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Garnteg

Torfaen Local Authority

Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4

Contract Dros Dro - Dau dymor, 1 Medi 2025 $ú 27 Mawrth 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Rydym yn dymuno penodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig, ymroddgar, gweithgar sydd â'r symbyliad a'r awydd i weithio yn rhan o dîm blaengar ein hysgol. Bydd gofyn i chi weithio ar draws pob maes o fewn yr ysgol gynradd. Bydd gennych ddealltwriaeth profedig o rôl a chyfrifoldebau'r ystafell ddosbarth, a dylai fod gennych wybodaeth gadarn am weithio gyda phlant, neu ofalu amdanynt, ynghyd ag ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, yn ddelfrydol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arddangos sgiliau rheoli ymddygiad effeithiol, wedi'u cefnogi gan y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag aelodau o staff a rhieni/gofalwyr. Dylech allu gweithio'n effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ar eich cymhelliant eich hun.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu â Mrs Mayley ar 01495 742934.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo . Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.