MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: G01 pwynt 2-3 £13,401- £13,611 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Dros Dro - Ysgol Pencae

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: G01 pwynt 2-3 £13,401- £13,611 y flwyddyn

YSGOL PENCAE, PENMAENMAWR

Ffordd Graiglwyd, Penmaenmawr, LL34 6YG

Ffon: 01492 622219

ebost: pennaeth@pencae.conwy.sch.uk

Pennaeth: Mr Owain Ellis

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 DROS DRO

(Contract dros dro hyd at 12/04/2026)

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro, i gefnogi disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan

y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar 01492 622219

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English