MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Tanyfron
Ffordd Tanyfron, Tanyfron, Glanrafon, Wrecsam LL11 5SA
Ffôn: 01978 758118
E-bost: mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mrs J. Jones / Pennaeth Dros Dro: Miss C. Harris (Medi 25)
Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mr S Wynne

0.80 (ca/ll)
Dros dro tan Ebrill 2026
Gradd Cyflog: MPR/UPR

Mae swydd dros dro ar gael yn Ysgol Tanyfron i wneud gwaith CPA drwy'r ysgol gyfan, yn dechrau ar 1 Medi 2025.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Tanyfron yn dymuno penodi ymarferydd dosbarth brwdfrydig, ysbrydoledig a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd uchod. Mae Ysgol Tanyfron yn ysgol ofalgar ac ymroddedig, sy'n cyrraedd safonau uchel o ran dysgu a lles disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

1. Credu mewn dull cyfannol o addysgu a dysgu lle mae lles disgyblion wrth wraidd eich ymarfer.
2. Dangos disgwyliadau uchel a dealltwriaeth o'r ystod amrywiol o anghenion dysgu ac ymddygiad plant.
3. Ymwybodol o fentrau newydd o fewn addysgu megis y Cwricwlwm i Gymru a Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
4. Meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol i weithio drwy'r ysgol gyfan, gan reoli a chefnogi cynorthwywyr addysgu yn effeithiol a chyfathrebu'n dda â rhieni/gwarcheidwaid.
5. Hyderus ac yn greadigol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol.
6. Barod i gymryd rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol.

Anogir partïon â diddordeb i ymweld â gwefan ein hysgol i weld rhagor o wybodaeth am yr ysgol neu ddod i'r ysgol ar ymweliad, yn ôl y drefn isod.

YMWELIADAU Â'R YSGOL Dydd Mawrth 1 Gorffennaf am 3:30pm a dydd Mawrth 8 Gorffennaf am 3.30pm. Ffoniwch/e-bostiwch yr ysgol i gadarnhau eich presenoldeb - 01978 758118 neu mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk neu ffoniwch i gadarnhau eich presenoldeb.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU DERBYN CEISIADAU: Dydd Iau 10 Gorffennaf am 12pm

ARSWYLI GWERSI: w/d Dydd Llun 14 Gorffennaf

CYFWELIADAU: Dydd Mercher 16 Gorffennaf