MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfreithiwr (Addysg)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cyfreithiwr (Addysg)

Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

G11 £44,711 - £47,754

Dyma gyfle delfrydol i Gyfreithiwr gyda phrofiad mewn cyfraith addysg, a hoffai weithio o fewn awdurdod lleol yng ngogledd Cymru.

Mae'r rôl heriol hon yn gofyn am unigolyn sy'n gallu rheoli llwyth achosion cymhleth ar draws ystod eang o feysydd addysg gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, llywodraethu ysgolion, ad-drefnu ysgolion a derbyniadau.

Byddwch yn ymdrin â gwaith trafodaethol a phrosiect ac mae'n rhaid i chi allu rhoi cyngor gadarn i sicrhau bod yr Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn cyrraedd pob gofyniad cyfreithiol perthnasol.

Bydd gennych sgiliau drafftio, cyfathrebu a dadansoddi ardderchog a'r gallu i weithio'n annibynnol.

Byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Effeithiolrwydd Addysg ac Isadeiledd ac yn adrodd i'r Pennaeth Gwasanaeth, ond yn derbyn goruchwyliaeth broffesiynol gan y tîm Gwasanaethau Cyfreithiol.

Yn gyfnewid cewch fanteisio ar amgylchedd weithio gefnogol a chael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith yn harddwch gogledd Cymru.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Dafydd Ifans (Pennaeth Effeithiolrwydd Addysg ac Isadeiledd) 01978 295404 - dafydd.ifans@wrexham.gov.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

DYDDIAD CAU: 1af Awst 2025