MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 36,109 - 40,325 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 36,109 - 40,325 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Mae Ceredigion yn ardal wledig brydferth gydag arfordir dramatig a chymunedau llawn bwrlwm. Mae'n sir sy'n gyfoethog o ran hanes, diwylliant a chymuned. Mae ysgolion Ceredigion yn anelu at ddarparu'r safonau uchaf o ran addysg ac mae perthynas da iawn rhwng yr ysgolion a'r Gwasanaethau Dysgu.
Rydym yn edrych am seicolegydd addysg cynorthwyol i ymuno a'n gwasanaeth brwdfrydig, sy'n rhan o dim ehangach Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan oruchwyliaeth seicolegwyr cymwysedig i gefnogi nhw yn eu dyletswyddau statudol yn unol â'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 a gweithredu polisiau a phrosesau eraill yr A.Ll.
Rydym yn awyddus i benodi seicolegydd addysg cynorthwyol brwdfrydig ac ymroddedig sy'n bwriadu dilyn gyrfa ym maes Seicoleg Addysg.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth a sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg trwy e-bost Angharad.Behnan@ceredigion.gov.uk er mwyn trefnu sgwrs dros y ffôn.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhairolauofewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy