MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £48,710 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd Prosiect - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £48,710 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1421 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : 1af o Fedi, 2025.

ARWEINYDD PROSIECT

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru mentrau strategol a rhagoriaeth weithredol ar draws yr ysgol. Mi fydd yr unigolyn llwyddianus yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa PS5 pwyntiau 37-39 (£46,731 - £48,710 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mrs Margaret Davies, Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Melanie Horton, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;

E-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 11fed O ORFFENNAF 2025

Swydd Ddisgrifiad Arweinydd Prosiect 1.9.25.pdf

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi