MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 32,433 - 49,944 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Penparc

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 32,433 - 49,944 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Mae Ysgol Gynradd Penparc yn chwilio am athro neu athrawes ysbrydoledig, empathetig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm hapus a chefnogol o fis Medi 2025 ymlaen.

Mae'r swydd yn 0.4 i ddechrau, ond gyda'r posibilrwydd y gallai'r oriau gynyddu wrth i nifer y disgyblion yn yr ysgol barhau i dyfu. Mae'r ysgol yn agored i drafod pa oedran y byddai'r aelod newydd yn ei addysgu, ac yn hyblyg o ran pa ddyddiau gwaith fyddai'n fwyaf addas.

Ysgol hapus a chroesawgar yw Penparc, lle mae gofal a lles disgyblion, staff a'r gymuned ehangach yn ganolog i bopeth a wnawn. Credwn fod ymddiriedaeth, cefnogaeth ac uchelgais yn sylfeini pwysig ar gyfer cynnydd a llwyddiant pob unigolyn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n:
  • broffesiynol, llawn brwdfrydedd ac yn bositif o ran agwedd
  • meddu ar ymdeimlad cryf o ofal, sensitifrwydd ac empathi
  • ystyriol a chreadigol yn ei ddulliau addysgu
  • barod i gyfrannu'n llawn at fywyd cymunedol yr ysgol
  • hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, rhieni a chydweithwyr
  • yn medru creu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol
  • yn barod i ddysgu ac ymroi i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ymholi er mwyn cwrdd â gofynion gwahanol y disgyblion o'u blaenau
  • yn gallu defnyddio data a gwybodaeth i lywio dysgu effeithiol a thargedu cynnydd pob un ar eu lefelau hwy
  • yn rhannu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer lles, cynnydd a chyfle cyfartal

Bydd yr aelod newydd o staff yn cael eu croesawu'n gynnes ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan dîm profiadol a gofalgar yr ysgol. Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol yn ogystal ag athrawon sy'n dechrau ar eu gyrfa. Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i'r unigolyn mwyaf addas i ymuno â'n cymuned ysgol arbennig.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun y 7fed o Orffennaf
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Llun y 14eg o Orffennaf
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mr Trystan Phillips neu Mrs Nicola Roscoe ar 01239 810586. Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs cyn hynny, ac i drefnu ymweliad â'r ysgol pe dymunech.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu