MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Adnoddau Dynol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £32,147 - £35,811
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Arbenigwr Cysylltiadau Gweithwyr

Arbenigwr Cysylltiadau Gweithwyr

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Arbenigwr Cysylltiadau Gweithwyr

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol/Rhan Amser

Graddfa Gyflog: £32,147 - £35,811 (pro-rata)

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Arbenigwr Cysylltiadau Gweithwyr i ymuno â’n tîm Adnoddau Dynol sy’n tyfu, ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy.

Trosolwg o’r Swydd

Wrth ymuno â ni fel Ymgynghorydd Cysylltiadau Gweithwyr, byddwch yn gyfrifol yn bennaf am ddarparu Gwasanaeth AD sy’n canolbwyntio ar berfformiad uchel a rhagweithiol. Byddwch yn arwain y polisi AD yn ogystal â rheoli ystod eang o faterion cymhleth ynghylch cysylltiadau gweithwyr. Fel arbenigwr mewn cysylltiadau gweithwyr bydd disgwyl i chi gydweithredu gyda’n rheolwyr a’n tîm AD ar reoli achosion materion cysylltiadau gweithwyr unigol, cymhleth, risg uchel a sensitif.

Gan fod AD yn newid bob amser, mae’n hanfodol eich bod yn gallu dangos sut ydych chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a datblygiadau yn y diwydiant. Rydyn ni’n awyddus i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd a lefel uchel o addasrwydd yn eu swydd.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster CIPD Lefel 5 o leiaf a MCIPD

Profiad blaenorol o weithio mewn swydd gyffredinol AD

Profiad o arwain grwpiau gweithio rhanddeiliaid gan gynnwys Undebau Llafur

Gwybodaeth fanwl a phrofiad o baramedrau cyfreithiol ac arferion gorau AD.

Profiad o weinyddu a datblygu system AD

Canolbwyntio’n gryf ar gwsmeriaid ac yn meddu ar y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i godi proffil y Gymraeg - mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn Gyflogwr 'Hyderus o ran Anabledd'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn ac fel rhan o hyn, mae'r Coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Gofynnir am Ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus sy'n cael cynnig y swydd.