MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Swydd tymor penodol: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

27.5 awr yr wythnos (Llun - Gwener / 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata

Gradd 4

Angen o'r 1.9.25 - 17.7.26

Ysgol ddwy ffrwd yr Eglwys yng Nghymru yw Trefonnen, a reolir yn wirfoddol ac sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp rhieni a phlant bach, Ti a Fi (grŵp dwyieithog i famau a phlant bach), grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Saesneg), Cylch Meithrin (grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg) a dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym angen cynorthwyydd cymorth dysgu i gefnogi dysgu disgyblion yn Ysgol Trefonnen.

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Dysgu sydd:
  • yn llawn cymhelliant ac yn gallu ffurfio perthnasoedd rhagorol gyda phlant.
  • yn gyfathrebwr da
  • â disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad
  • yn gweithio'n dda fel rhan o dîm
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
  • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
  • Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
  • Amgylchedd dysgu gofalgar sydd ag adnoddau da iawn
  • Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Bydd gofyn i ymgeiswyr wneud gwiriad datgelu a gwahardd.

Dyddiad Cau: 7.7.25

Dyddiad Cyfweld: 16.7.25