MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Adnoddau Dynol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,639 - £30,681
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Ymgynghorydd Adnoddau Dynol

Ymgynghorydd Adnoddau Dynol

Coleg Cambria
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Ymgynghorydd AD profiadol i ymuno â’n tîm AD sy’n ehangu. Bydd y swydd wedi’i lleoli’n bennaf ar ein safle Glannau Dyfrdwy, fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i deithio’n rheolaidd i leoliadau eraill Coleg Cambria.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â’r sgiliau i weithio mewn swydd hynod o amrywiol, sydd ar gyflymder cyflym. Byddwch yn rhoi cyngor proffesiynol ar ymholiadau o ddydd i ddydd am faterion AD gan reolwyr a gweithiwyr, gan weithredu gweithgareddau’n ymwneud ag AD ar gyfer pwnc penodol yn y coleg.

Bydd disgwyl i chi weithio dros ystod o dasgau a blaenoriaethau AD gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr a gweithwyr am bolisïau a gweithdrefnau AD. Byddwch yn cefnogi rheolwyr gyda gweithgareddau recriwtio, gan gynnwys ysgrifennu disgrifiadau swyddi, llunio rhestr fer, darparu cymorth panel mewn cyfweliadau a gweithgareddau rhyngweithredol AD.

Byddwch wedi ymroi i ddarparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a byddwch wedi ymrwymo i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran deddfwriaeth cyflogaeth ac arferion gorau AD.

Bydd y swydd hon yn gofyn i chi weithio’n rhagweithiol fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen.

Fel Ymgynghorydd AD, eich cyfrifoldeb chi fydd cefnogi a chyfrannu at ddatblygu ac ymgorffori polisïau, prosesau a phrosiectau sy’n cynorthwyo gweledigaeth ehangach y coleg a hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’n bwysig eich bod yn gyfforddus wrth weithio gyda data a byddwch yn gallu defnyddio data a dadansoddeg i ddeall a chanfod cyfleoedd i wella ymhellach.



Gofynion Hanfodol

Cymhwyster proffesiynol CIPD i Lefel 5

Profiad o roi cyngor ac arweiniad i reolwyr ynghylch materon AD

Profiad o brosesu gweithdrefnau rhyngweithredol

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.