MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £78,900 - £84,477
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Is-bennaeth (Sgiliau Bywyd a Dysgu i Oedolion) CC/2042

Is-bennaeth (Sgiliau Bywyd a Dysgu i Oedolion) CC/2042

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Is-bennaeth (Sgiliau Bywyd a Dysgu i Oedolion)

Lleoliad: Pob safle, Coleg Cambria

Cyflog: £78,900 - £84,477

Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol i ymuno â’r tîm uwch reoli yma yng Ngholeg Cambria. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reolaeth strategol y Gyfarwyddiaeth Sgiliau Bywyd a Dysgu i Oedolion, gyda phrofiad ym maes oedolion, dysgu cymunedol a dysgu sylfaen. Byddwch yn gweithio ar draws safleoedd y Coleg ac yn canolbwyntio ar ddarpariaeth sgiliau sylfaenol a rhaglenni sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed gan gynnwys Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a datblygiad a darpariaeth sgiliau hanfodol fel Mathemateg a Saesneg ar draws y coleg. Mae addysg i oedolion yn cynnwys ESOL ac Addysg Oedolion a Chymunedol yn ogystal â sgiliau sylfaenol i oedolion.

Mae hon yn swydd ysbrydoledig i ledaenu’r Cwricwlwm/y ddarpariaeth ledled y Coleg, gan gefnogi diwylliant tegwch, tryloywder, cyfathrebu agored a grymuso er mwyn cydnabod cyflawniadau staff a dysgwyr. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol dystiolaeth o brofiad blaenorol fel arweinydd llwyddiannus yn y sector AB, wedi ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn o sgiliau cyfathrebu rhagorol, ymrwymiad i lesiant, llywio canlyniadau myfyrwyr, meddylfryd strategol blaengar.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r weledigaeth, sgiliau, arbenigedd a’r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ac i’n helpu i wireddu ein huchelgais, hoffem gael clywed gennych.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Vicki.Durr@cambria.ac.uk

Bydd y diwrnod asesu a chyfweliadau ar 23 Mehefin 2022

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.