MANYLION
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Coedwigaeth

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleolir yr adran Goedwigaeth yng Ngholeg Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau lefel 2 a 3 llawn amser gyda'r posibilrwydd o gwblhau prentisiaeth ar lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol gyda chyflogwyr addas. Mae myfyrwyr yn mynd i mewn i fyd gwaith gyda chyflogwyr sy'n cyflawni ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau gyda'r diwydiant coetir a choedwigaeth, gan gynnwys sefydliadau cenedlaethol sy'n rheoli coedwigaeth ar raddfa fawr neu gynnal a chadw seilwaith yn ogystal â gweithrediadau llawfeddygon coed llai a chwmnïau rheoli tir.

Daw myfyrwyr Coedwigaeth o amrywiaeth o gefndiroedd, bydd y mwyfarfif yn dod yn syth o'r ysgol ar ddeachrau eu gyrfa, bydd rhai hynach yn newid cyfeiriad gyrfa neu yn dod i'r coleg gyda profiad o weithio yn y maes.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth gyda galw mawr am gweithwyr yn y diwydiant. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn parhau mewn addysg a mynd ymlaen i brifysgol lle maent yn astudio ar lefel uwch trwy gwblhau gradd.

Bydd gan y darlithydd Coedwigaeth gyfrifoldeb bugeiliol dros fyfyrwyr a sicrhau y bodlonir safonau ansawdd perthnasol fel y nodir gan y corff dyfarnu cymwysterau.

Gosodir y cwricwlwm gan y corff dyfarnu cymwysterau. Bydd gofyn i'r darlithydd ddatblygu sesiynau perthnasol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu da a bod amcanion yr uned yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd ymarferol yn ystod y cwrs a bydd angen cydlynu'r rhain gyda'r tîm i atgyfnerthu dealltwriaeth o'r sesiynau dosbarth. ar adegau fe fydd gofyn i'r darlithydd gymeryd rhan mewn sesiwynau ymarferol, mae profiad ymarferol o weithio yn y maes yn bwysig ar gyfer adgyfnerthu dysgu trwy brofiadau ac ymarferion diwydiannol.

Mae galw mawr am fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cymwysterau gan y diwydiant coedwigaeth, coedyddiaeth a rheoli cefn gwlad lleol a chenedlaethol sy'n rhoi ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa. Mae'r adran felly yn hyfforddi myfyrwyr mewn gwahanol agweddau yn ymwneud â'r diwydiant Coedwigaeth gan gynnwys cyrsiau byr mewn defnyddio a chynnal llif gadwyn, torwyr brwsh, peiriannau naddu a chymorth cyntaf. Mae cynnwys y cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau ar reoli tir, rheoli plâu a chlefydau, defnydd hamdden, Coetiroedd, cefn gwlad a rheoli prosiectau.

Mae'n ofynnol yn fras i Ddarlithydd Coedwigaeth ddarparu dysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial llawn.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/172/25

Cyflog
£32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Glynllifon

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
11 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)