MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Pennaeth Gwasanaeth 2 £77,488 – £85,034 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cynhwysiant a Llesiant
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Pennaeth Gwasanaeth 2 £77,488 – £85,034 y flwyddyn
Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cynhwysiant a LlesiantSwydd-ddisgrifiad
Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod gwasanaethau o fewn y portffolio yn gwella'r canlyniadau i bob dysgwr.
Fel aelod o'r Uwch Dîm Arwain (SLT), gweithio gydag aelodau eraill o'r SLT a'r Tîm Arwain Corfforaethol (CLT) i ddarparu arweinyddiaeth strategol ledled Powys.
Cefnogi Aelodau'r Cabinet i ddarparu arweinyddiaeth gref, weladwy ac ysbrydoledig ar draws y Portffolios.
Gweithio gydag Aelodau'r Cabinet, Pwyllgorau a'r Cyngor Llawn i ddarparu cyngor diduedd a phroffesiynol yn ôl yr angen.
Gweithio ar y cyd â SLT a CLT i sicrhau dull sefydliadol cyfan o gyflawni cynlluniau a blaenoriaethau corfforaethol i sicrhau perfformiad uchel, cynaliadwyedd ac i ddiogelu pobl a lle Powys.
Nodi, adeiladu, cynnal a datblygu perthnasoedd partneriaeth rhanddeiliaid mewnol ac allanol effeithiol gan sicrhau eu bod yn cefnogi ac yn gwella darpariaeth Powys a blaenoriaethau a chynlluniau cyffredin.
Arwain a chefnogi'r gwasanaeth i sicrhau ei fod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a chanolbwyntio ar wella parhaus.
Nodi, adeiladu a chynnal perthnasoedd cwsmeriaid effeithiol, rhagweld anghenion cwsmeriaid a darparu atebion sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Adeiladu a sicrhau bod uwch reolwyr yn adeiladu timau effeithiol sy'n cydweithio gyda'i gilydd yn gadarn ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiadau angenrheidiol i gyflawni yn erbyn cynlluniau gwasanaeth a chorfforaethol.
Ymgymryd â chynllunio gweithlu effeithiol i sicrhau bod gan dimau yr adnoddau, y sgiliau a'r profiadau priodol ar gyfer anghenion y gwasanaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae'r swydd hon yn cael ei hystyried yn weithgaredd rheoledig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012.