MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Arbennig) (Ysgol Bro Hyddgen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Goruchwyliwr Canol Dydd (Arbennig) (Ysgol Bro Hyddgen)
Swydd-ddisgrifiad

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Goruchwylio disgyblion yn ystod amser cinio a sicrhau eu diogelwch a'u lles.
2. Yn gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Oruchwyliwr Canol Dydd neu rywun dynodedig arall sy'n gyfrifol.
3. Mae'r swydd hon yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion arbennig y mae
angen cymorth arbenigol arnynt ond heb fod angen rhoi meddyginiaeth na
defnyddio sgiliau iaith Makaton
4. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael effaith uniongyrchol sylweddol ar les unigolion neu grwpiau drwy ddarparu gofal neu les priodol i'r rheini sy'n dibynnu'n bersonol ar y swydd am eu hanghenion sylfaenol. Gallai hyn gynnwys bodloni eu hanghenion wrth fynd i'r toiled e.e. newid cewynnau/padiau a symud/cario a chodi cysylltiedig.
5. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
6. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
7. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin a defnyddio offer yn ofalus

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS