MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Soulbury 15 – 18 a 3 phwynt SPA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymgynghorydd: Saesneg a LlythrenneddSaesneg a Llythrennedd

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Soulbury 15 – 18 a 3 phwynt SPA

Ymgynghorydd: Saesneg a LlythrenneddSaesneg a Llythrennedd

Disgrifiad Swydd
Consortiwm Canolbarth y De

Canolfan Menter y Cymoedd, Abercynon

Gwasanaeth Dysgu Proffesiynol a Chefnogaeth Rhanbarthol

Ymgynghorydd: Saesneg a Llythrennedd



Swydd barhaol, amser llawn i ddechrau Ionawr 2026 neu'n gynt os yn bosibl.

Soulbury 15 - 18 a 3 phwynt SPA

Yn dilyn canlyniad argymhellion Adolygiad yr Haen Ganol, mae Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol ar draws rhanbarth CCD wedi cytuno i gomisiynu Gwasanaeth Dysgu Proffesiynol a Chefnogaeth Rhanbarthol. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu o 1 Medi 2025, ac rydym yn edrych am arweinwyr canol talentog a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Ymgynghorol.

Rydym yn edrych am addysgwyr rhagorol sydd wedi profi droeon eu bod yn medru codi safonau a gwella deilliannau i ddysgwyr. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn angerddol ynghylch addysgu a dysgu, ac wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ddarparu dysgu proffesiynol a chefnogaeth o ansawdd uchel.

Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Richard George richard.george@cscjes.org.uk i drefnu trafodaeth anffurfiol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ganol dydd 4 Gorffennaf 2025.

Cynhelir cyfweliadau rhwng 14 ac 16 Gorffennaf 2025.



Gellir cael ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y rôl o wefan Recriwtio'r Cyngor.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY'N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A'R CYNGOR



YN YCHWANEGOL AT Y CYFRIFOLDEB DIOGELU HWN, BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny achanddynnhw hunaniaethauanneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.