MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 50,653 - 55,900 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Rhydypennau

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 50,653 - 55,900 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.



Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gymunedol Rhydypennau lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Yn dilyn dyrchafiad ein Pennaeth Cynorthwyol presennol i rôl y Dirprwy Bennaeth yn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau yn awyddus i benodi person cymwys i swydd y Pennaeth Cynorthwyol. Yn ogystal â chyfrifoldebau eraill, bydd gan y Pennaeth Cynorthwyol cyfrifoldeb penodol fel arweinydd adran Cyfnod Allweddol 2, lles disgyblion ac asesu ar draws yr ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus tystiolaeth cyson a chadarn o addysgu a dysgu o safon uchel mewn ysgol gynradd, ac yn ddelfrydol, profiad o addysgu ar draws yr ystod oedran yng Nghyfnod Allweddol 2. Byddant yn arddangos y sgiliau a'r cymhelliant i arwain yr adran, ac yn medru tystiolaethu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar lefel arweinyddiaeth.

Byddwch yn ymuno gydag Uwch Dîm Rheoli profiadol ac ymroddgar, sy'n cynnwys y Pennaeth, Dirprwy Bennaeth a Phennaeth Cynorthwyol. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â'r rhinweddau angenrheidiol er mwyn gallu cydweithio'n hwylus ac mewn modd proffesiynol gyda holl randaliad yr ysgol; ac sy'n hynod effeithiol ac effeithlon ym mhob agwedd o ofynion y swydd ac o waith yr ysgol.

Croesawn gyswllt blaenorol gan ymgeiswyr, a gallwch drefnu sgwrs neu ymweliad anffurfiol trwy gysylltu â'r Pennaeth, Mr Peter Leggett ar 01970 828608 neu dros e-bost ar p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk

Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer cyfweliadau ar ddydd Mercher 16eg Gorffennaf 2025. Fel rhan o'r cyfweliad, bydd gofyn i chi roi cyflwyniad, heb fod yn hwy na 10 munud, yn amlinellu sut rydych chi wedi datblygu dysgwyr annibynnol yn llwyddiannus yn eich lleoliad presennol.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy