MANYLION
  • Lleoliad: Plascrug Primary School, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 24,404 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Plascrug

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,404 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi i'r swydd hon.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 2 yn cyfnod sylfaen dros gyfnod mamolaeth i'n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb llawn amser yn Ysgol Gymunedol Plascrug. Swydd i ddechrau ar y 3ydd o Dachwedd 2025.

Lleolir Ysgol Gymunedol Plascrug yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae 459 oddisgyblionar gofrestr yr ysgol. Mae'r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda'r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thim llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer ein disgyblion.

Fe fydd gofyn i chi:
  • oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
  • sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion, gan ryngweithio yn unol a'u hanghenion unigol
  • herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth
  • annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes
  • cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol

Rydym am benodi unigolyn sydd a:
  • sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
  • dealltwriaeth gyffredinol o'r cwricwlwm cenedlaethol/cyfnod Sylfaen a rhaglenni / strategaethau dysgu sylfaenol eraill
  • gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dim, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
  • CGC2 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio'u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu'r disgyblion.

I gydnabod eich sgiliau a'ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyryma. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rol hon yn gyflym ac yn hyderus.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Carol Macy ar 01970 612286

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy