MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Bryn Tabor
Heol Maelor
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3NB
01978 722180
mailbox@bryntabor-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mr Kevin Williams (nifer ar y gofrestr 200)

ATHRO/ATHRAWES CYFNOD MAMOLAETH
Swydd Athro Blwyddyn 1 a 2
Llawn Amser
Prif Raddfa Cyflog
Swydd i gychwyn Medi 1af 2025 - Cyfnod Mamolaeth.

Mae Ysgol Bryn Tabor yn ysgol cyfrwng Gymraeg wedi ei leoli ym mhentref Coedpoeth, ger Wrecsam. Rydym yn ysgol ragorol gydag ethos gofalgar a chynhwysol. Bydd angen i'r ymgeiswyr fod yn arloesol, gweithgar ac yn meddu ar agwedd gadarnhaol gan flaenoriaethu lles y disgybl. Bydd y gallu i addysgu yn ysbrydoledig, gyda rheolaeth ardderchog a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.

Bydd y person a benodir i'r swyddi yn derbyn cefnogaeth gan dîm o staff profiadol a chefnogol. Dylai ymgeiswyr nodi eu profiad a'u cryfderau cwricwlaidd yn eu ffurflen cais.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweld â'r ysgol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Anfonwch eich ffurflen cais at Bennaeth yr ysgol neu e-bostiwch i mailbox@bryntabor-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Iau, Gorffennaf 3ydd 2025 am 12 o'r gloch.
CYFWELIADAU: I'w cadarnhau